|
Mae babanod yn teimlo'n ddiogel oherwydd bod ein staff yn ail-greu amgylchedd gartrefol ac yn rhoi digon o wenau a maldod.
Ceir ystod eang o degannau cyffrous megis baby gyms, ratlau, drychau, symudion cerddorol a thwneli gweithgareddau. Mae'r rhain yn annog iddynt ddatblygu eu sgiliau symud megis gafael a chicio, ac hefyd sgiliau cyfathrebu megis chwerthin. Wrth i'r babanod dyfu a medru ymestyn, rholio, eistedd, cropian, sefyll ac ym mhen hir a hwyr cerdded, cant eu hannog i chwarae a datblygu ar gylymder eu hunain.
Trwy chwarae gyda phaent, d?r, tywod etc, rhoddir hyder i fabanod arbrofi wrth chwarae'n arbrofol.
|
|
Erbyn bod y plant yn 1 oed, dylai'r sgiliau symud canlynol fod wedi datblygu:
- Codi'r pen
- Rholio drosodd
- Eistedd
- Cydbwyso
- Cropian
- Cerdded
Mae'r canlynol yn cynnwys y sgiliau symud manwl a ddylai fod wedi'u datblygu:
- Ymestyn
- Gafael
- Gafael Gefail (Bawd a bys)
- Codi a gollwng gwrthrychau
|